Mae chwech o leoliadau yn Sir Gaerfyrddin wedi cael eu cau fel rhan o ymgyrch yn erbyn busnesau sy’n torri rheolau’r coronafeirws.

Fe ddaw yn dilyn camau gan y Cyngor Sir a Heddlu Dyfed-Powys i sicrhau bod busnesau’n cadw at y cyfyngiadau er mwyn cadw pobol yn ddiogel yn ystod yr ymlediad.

Mae nifer yr achosion ar gynnydd eto yn y sir, ac mae tystiolaeth fod y cynnydd mewn sawl ardal yn ymwneud â thafarndai, clybiau a bariau yn cael agor eto.

Mae Clwb Criced a Phêl-droed Drefach a Chlwb Bowlio Pen-bre a Phorth Thywyn wedi cael gorchymyn i gau am 14 diwrnod.

Bydd Infinity Bar yng Nghaerfyrddin ynghau am saith diwrnod, tra bydd Gwesty’r Railway a Chlwb Lles Glowyr Rhydaman a Gwesty’r Golden Lion yng Nghaerfyrddin ynghau am 48 awr.

Mae sawl lleoliad arall wedi cael rhybudd y gallen nhw gael eu cau oni bai eu bod nhw’n cymryd camau i wella’r sefyllfa, ac eraill eisoes wedi gwneud gwelliannau yn dilyn ymweliadau blaenorol.

Ond mae’r Cyngor Sir hefyd yn pwysleisio bod nifer fawr o fusnesau’n llwyddo i gadw at y rheolau ac i gynnal awyrgylch diogel i gwsmeriaid.