Mae athrawes o Ysgol Uwchradd Llanidloes yn wynebu cael ei gwahardd rhag dysgu ar ôl esgus bod yn ferch ysgol 13 oed wrth honni bod prifathro ysgol arall wedi ei cham-drin yn rhywiol.

Roedd Eleri Roberts, 32, wedi ffonio elusen Childline er mwyn gwneud yr honiadau yn erbyn Tudur Williams, prifathro Ysgol Uwchradd Ardudwy, Harlech.

Cafodd hi ei holi gan yr heddlu’n ddiweddarach, ond mi dderbyniodd hi rybudd heb fod yr achos yn mynd ymhellach.

Ond penderfynodd y Cyngor Gweithlu Addysg gynnal ymchwiliad i’r mater.

‘Ymddygiad proffesiynol annerbyniol’

Clywodd y pwyllgor fod yr athrawes wedi cyhuddo’r prifathro o’i “chyffwrdd mewn modd amhriodol” ym mis Tachwedd 2013, a’i bod hi wedi derbyn rhybudd ffurfiol gan yr heddlu ym mis Mawrth y flwyddyn ganlynol.

Dywedodd llefarydd ar ran y pwyllgor ei bod hi’n euog o’r cyhuddiadau yn ei herbyn a bod ei hymddygiad yn gyfystyr ag “ymddygiad proffesiynol annerbyniol”.

Mae’r opsiynau sydd ar gael i’r pwyllgor yn cynnwys tynnu ei henw oddi ar y gofrestr athrawon neu waharddiad.

Roedd disgwyl i’r panel gwrdd ddoe, ond fe fydd dyddiad arall yn cael ei bennu oherwydd nad oedd Eleri Roberts yn gallu mynychu cyfarfod.