Mae tafarn Yr Anglesey yng Nghaernarfon wedi derbyn rhybudd am beidio cadw at reolau ymbellhau cymdeithasol.

Dywedodd y Cynghorydd Ioan Thomas, Aelod Cabinet dros Gyllid, wrth golwg360: “Dw i wedi derbyn nifer o gwynion am yr Anglesey.

“Yn benodol fod y cyhoedd yn teimlo nad oes modd mynd ar hyd y gofod tu allan i’r dafarn yn gyfforddus a chadw at bellter cymdeithasol.

“Mae nifer yn credu bod awyrgylch fygythiol ar y safle.

Ceisio gwneud ei orau”

“Dw i’n cydnabod fod y tafarnwr wedi bod yn ceisio gwneud ei orau ond mae cyfrifoldeb arno i sicrhau fod y cwsmeriaid yn cadw at bellter cymdeithasol.

“Dw i hefyd yn ymwybodol fod y dafarn wedi derbyn rhybudd bellach.”

Ond mae Landlord Yr Anglesey, Geoff Harvey yn dweud ei fod wedi gwneud “popeth bosib” i sicrhau diogelwch ei staff a’i gwsmeriaid.

Dywedodd wrth North Wales Live: “Gallaf reoli tu mewn i’r dafarn a rhai rhannau o’r tu allan, ond alla i ddim rheoli’r llwybr cyhoeddus.

“Os yw pobol ofn defnyddio’r llwybr cyhoeddus, mae yno lwybrau eraill. Os yw rhywun yn ofnus oherwydd iechyd gwael neu pa bynnag reswm, dylen nhw gymryd y camau priodol o ffeindio ffordd arall.

“Mae yno bwynt lle dim ond hyn a hyn alla i wneud.”

Y Goron

Tafarn arall mae cwyn wedi cael ei gwneud amdani yng Nghaernarfon yw Y Goron, er bod Ioan Thomas wedi dweud wrth golwg360 nad yw’n “ymwybodol o broblemau yn Y Goron.”

Ond mewn datganiad ar dudalen Facebook y dafarn, maen nhw wedi ymateb i “gwyn i’r Cyngor gan berson anhysbys.”

“Os yw unrhyw un yn anhapus gyda’r ffordd rydym yn ceisio gwneud pethau, dewch i’n gweld, ac os allwn egluro neu gynnig ateb, rydym yn hapus i wneud hynny.

“Rydym yn cadw cofnod o brofi ac olrhain, yn glanhau’r toiledau…

“Rydym yn hapus gyda’n staff sydd yn gweithio yn galed – arhoswch yn saff wrth ymweld â thafarndai.”