Mae fideo arbennig sydd yn diolch i weithwyr allweddol ac yn talu teyrnged i gymunedau yng Nghymru yn ystod y pandemig coronafeirws, wedi ei wylio dros 100,000 o weithiau ar y cyfryngau cymdeithasol.

Y Meddyg Teulu Dr Eilir Hughes a Rhys Jones, Uwch Nyrs yn Ysbyty Gwynedd, sydd yn gyfrifol am y fideo.

“Fy ngweledigaeth i a Rhys oedd rhoi llais ac wyneb i’r rheiny sydd wedi bod yn gweithio yn ddiflino ar lawr gwlad,” meddai Dr Eilir Hughes wrth Golwg360.

“Mae yna naws Gymreig i’r fideo, ac mae yna rywbeth arbennig am y berthynas rhwng y tirwedd a’r wynebau sydd i’w gweld.

“Roeddem ni’n dau yn teimlo fod angen rhoi hyn ar gof a chadw, a rhoi sylw i ymdrechion pawb, nid dim ond y doctoriaid ar nyrsys.

“Roeddem eisiau gweld wynebau pawb yn y fro – y gweithwyr allweddol i gyd.”

Rhai o’r gweithwyr allweddol a fu’n “gwarchod y gwasanaeth iechyd yn ystod y clo mawr.”

Y fideo

Yn y fideo mae doctoriaid, nyrsys, casglwyr ysbwriel, postmyn a threfnwyr angladdau ymhlith y gweithwyr allweddol sydd yn cyd gerdded tua chopa Moel Tryfan ger Rhosgadfan yng Ngwynedd.

Y cefndryd Gwilym Huws ac Anna Huws ffilmiodd y fideo, a chyn fachwr Cymru, Robin McBryde yw’r troslais sy’n darllen geiriau Dr Eilir Hughes a Rhys Jones.

“Mae ‘na lot o sôn wedi bod am yr arwyr yn y gwasanaeth iechyd, ond mewn gwirionedd mae’r gweithwyr allweddol yma i gyd wedi bod yn arwyr,” meddai Dr Eilir Hughes.

“Heb ddisgwyl clod na chlapio roedd gweithwyr allweddol yn mynd ati i wneud eu gwaith yn ddistaw bach.

“Drwy aros adref mi ddaru nhw a’r gymdeithas ehangach warchod y gwasanaeth iechyd yn ystod y clo mawr.”

Y fideo yn cynnig cysur

Er bod y fideo wedi bod o gysur mawr i nifer, pwysleisiodd Dr Eilir Hughes nad nodi diwedd y pandemig yw bwriad y fideo.

“Mae bod yn rhan o’r fideo wedi bod yn therapi i ambell berson.

“Mae llawer o’r gweithwyr yma wedi bod dan straen sylweddol, ac roedd cael bod yn rhan o hyn yn dangos bod haul yn dod ar fryn yn y diwedd.

“Nid ein bod ni’n teimlo bod y feirws wedi diflannu, ond mi oedd yn gyfnod heriol dros ben pan oedden ni yn i chanol hi.”

Pryder am yr Hydref

Wrth edrych tua’r hydref, eglura Dr Eilir Hughes fod nifer o heriau yn parhau i wynebu’r Gwasanaeth Iechyd.

“Yn gyffredinol mae pethau yn sefydlog iawn yn y pen yma o Gymru ar hyn o bryd, ond mae ’na bryder mawr mewn rhannau eraill,” meddai.

“O ran meddyg teulu, fy mhryderon yn sgil fy ngwaith i ydy’r ffliw, y covid a’r heintiau tymhorol fydd yn dod ddiwedd y flwyddyn – fydd hyn yn sialens.

“Yn ogystal â hyn, bydd yna hefyd bobol sydd wedi dal arni i fynd i weld i meddyg yn ystod y clo, a fydd yn dod i mewn gyda chyflyrau sydd wedi datblygu.

“Dwi’n teimlo bod pobol leol yn dal i ddilyn y rheolau ac yn ymwybodol fod ganddyn nhw gyfrifoldeb iddyn nhw eu hunain ac i’r gymdeithas ehangach, a dwi’n led obeithio y byddwn ni’n gallu dod drwy hyn.”

Er bod derbyniadau brys i ysbytai wedi gostwng yng Nghymru mae Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru eisoes wedi pwysleisio fod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn parhau i fod ar agor i bawb sydd ei angen

Gwyliwch y fideo ar dudalen Twitter Dr Eilir Hughes: