Canolfan Soar ym Merthyr
Roedd Canolfan Soar ym Merthyr Tudful werth £1.3 miliwn i economi De Cymru yn 2014, yn ôl amcangyfrifon.

Canolfan Gymraeg a theatr gymunedol Merthyr Tudful yw Canolfan Soar.

Caiff yr amcangyfrif ei wneud mewn adroddiad sydd wedi’i gyhoeddi gan Ymchwil Arad ac a gafodd ei gomisiynu gan Fenter Iaith Merthyr Tudful.

Er mwyn llunio’r adroddiad ‘Gwerthusiad o draweffaith economaidd a diwylliannol Canolfan Soar, Merthyr Tudful’, cwblhaodd Arad ymchwil yn seiliedig ar wybodaeth a gafodd ei chasglu gan Ganolfan Soar.

Roedd y data’n cynnwys niferoedd cynulleidfa, gwariant ar nwyddau, gwasanaethau a staff, buddsoddiad pellach a chyllid.

Cyfraniad at yr economi

Mae’r draweffaith economaidd flynyddol yn ystyried gwariant uniongyrchol, anuniongyrchol a chamau pellach a gafodd eu hysgogi gan weithgareddau’r Ganolfan.

Er mwyn cwblhau’r ymchwil, cafodd cyfweliadau eu cynnal gyda rhanddeiliaid strategol, staff y ganolfan a grwpiau cymunedol lleol.

Cyfrannodd y Ganolfan £594,100 i £608, 537 i’r economi leol yn 2014 ac yn ôl amcangyfrifon, cyfanswm y draweffaith economaidd yw £1.29-1.30 miliwn.

Mae grantiau gwerth £173,000 y ganolfan wedi arwain at draweffaith crynswth o £323,310 i £331,170 i Ferthyr Tudful, a £707,470 i £709,810 i dde Cymru.

Sefydliad pwysig

Mae’r Ganolfan yn darparu lleoliad i bobl gwrdd, dysgu, cymdeithasu ac ymgysylltu ag addysg a’r celfyddydau. Gellir gweld y Ganolfan felly fel sefydliad pwysig sydd yn denu pobol yn ôl at ganol y dref.

Mae’r pwyslais cryf ar etifeddiaeth ieithyddol a diwylliannol Merthyr Tudful wedi bod yn elfen hanfodol o draweffaith y Ganolfan.

Mae Canolfan Soar wedi gwneud cyfraniad pwysig tuag at newid canfyddiadau o Ferthyr Tudful fel lle ar gyfer digwyddiadau diwylliannol ac i ehangu mynediad i’r celfyddydau.

Caiff yr adroddiad ei gyflwyno i Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones heddiw mewn

cyfarfod i drafod traweffaith gwaith y Mentrau Iaith drwy Gymru gyfan.

‘Adfywio cymunedau’

 

Dywedodd Prif Swyddog Menter Iaith Merthyr Tudful, Lisbeth McLean: “Rydyn ni mor falch o’r cyfraniad mae Canolfan Soar yn wneud yn ein cymuned.

“Mae’r astudiaeth yma yn fesuriad o draweffaith economaidd a diwylliannol gall cael ei ddefnyddio i ddangos gwerth am arian er mwyn denu mwy o arian i ddatblygu’r Gymraeg.

“Rydym nawr yn gallu profi bod yr iaith Gymraeg yn adfywio cymunedau ac yn werth buddsoddi ynddi.”