Mae Heddlu De Cymru wedi lansio ymchwiliad llawn ac mae ymholiadau’n parhau ar ôl ymosodiad rhywiol mewn eiddo yn Nheras Cathays, Caerdydd nos Fawrth.
Mae rhagor o swyddogion yr heddlu ar batrôl yn yr ardal i dawelu meddyliau’r trigolion sy’n byw yno, meddai’r heddlu.
“Hoffem atgoffa pobl i gerdded mewn parau neu grwpiau yn ystod y nos, i yfed yn gyfrifol ac aros mewn ardaloedd poblog â golau da,” meddai llefarydd ar ran Heddlu De Cymru.
Does dim gwybodaeth bellach am y digwyddiad ar hyn o bryd.