Yn ystod pandemig y coronafeirws, rhoddodd Cymru dros 10 miliwn o eitemau o offer diogelu personol i Loegr, datgelodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething.

Yn sgil cytundebau cyd-gymorth a oedd ar waith gyda San Steffan, Holyrood a Stormont rhoddodd Cymru bron i 15 miliwn o eitemau PPE, megis mygydau a menig, i Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Derbyniodd Cymru 1.4 miliwn o eitemau PPE gan y gwledydd hynny yn gyfnewid.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, fod y ffigurau’n dangos bod cysylltiadau rhwng y Llywodraethau wedi gweithio’n dda yn ystod argyfwng Covid-19, ond awgrymodd fod Lloegr yn wynebu “heriau sylweddol wrth drefnu eu hunain”.

‘Od?’

Roedd y Gweinidog yn rhoi tystiolaeth i’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a bu i Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru awgrymu ei fod yn “od” bod y system wedi troi allan i fod mor anghytbwys.

“Yn hytrach na bod yn od, rwy’n credu ei fod yn dangos pa mor llwyddiannus rydym wedi bod o gymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig,” atebodd Mr Gething.

“Roeddem yn falch o helpu’r Alban a Gogledd Iwerddon. Roedd gan Ogledd Iwerddon faterion tymor byr y gwnaethon ni eu helpu gyda nhw, ond maen nhw hefyd wedi ein cynorthwyo ni.

“Cawsom gyd-gymorth gan yr Alban ar nifer o fygydau yn gynnar [yn y pandemig] a dychwelwyd y cymorth [hwnnw] hefyd. Mae cyd-gymorth wedi’i ddychwelyd bob amser.

“Heriau sylweddol iawn”

“Mewn gwirionedd, system Lloegr sydd wedi wynebu heriau sylweddol iawn wrth drefnu eu hunain.

“Mae’r system sydd gennym yng Nghymru wedi gwrthsefyll straen a phwysau eithafol y pandemig hwn.

“Rydym wedi llwyddo, nid yn unig i ddiwallu anghenion Cymru, ond i helpu Lloegr gyda rhai o’u heriau.

“Rwy’n credu bod hynny’n llwyddiant i Gymru. Rydym wedi gallu cynorthwyo gwledydd eraill y Deyrnas Unedig heb gyfaddawdu ar ein cyflenwad ni.”

Cartrefi gofal

Yn ystod y cyfyngiadau, darparwyd mwy na 170 miliwn o ddarnau o PPE i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys cyflenwi cartrefi gofal yn ddi-dâl.

Yr wythnos ddiwethaf, beirniadwyd Llywodraeth Cymru gan adroddiad a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Iechyd am gyfyngu cyflenwadau PPE mewn cartrefi gofal i fenig a ffedogau plastig ac am fod yn rhy araf yn lansio trefn brofi ar gyfer staff a phreswylwyr ar ddechrau’r argyfwng. Argymhellodd yr adroddiad y dylid storio digon o PPE priodol ar gyfer achosion yn y dyfodol.