Mae Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwryain Cymru (SEWTC) wedi cyhoeddi adroddiad newydd ar argymhellion ar gyfer mynd i’r afael â thagfeydd ar yr M4.
Cafodd SEWTC ei sefydlu yn Hydref 2019 gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates.
Daeth hynny yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ym Mehefin 2019 na fyddai gwaith ar ffordd liniaru’r M4 yn mynd yn ei flaen.
Mae canfyddiadau’r adroddiad yn dod ar ôl gwaith dadansoddi a thrafodaethau gyda rhanddeiliaid.
Mae gwaith eisoes ar y gweill ar gyfres o argymhellion ar sail y casgliadau newydd, fydd yn cael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru erbyn diwedd y flwyddyn.
“Rydym wedi gweld bod y tagfeydd ar yr M4 yn broblem oriau brig yn bennaf, yn gysylltiedig â chymudo. Ychydig o ddewisiadau credadwy sydd gan bobl o ran trafnidiaeth gyhoeddus o ran y mathau o siwrneiau y mae angen iddynt eu gwneud,” meddai’r Arglwydd Burns, Cadeirydd Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru.
“Ar y cyfan, ein barn yw bod angen rhwydwaith integredig o opsiynau eraill ar gyfer trafnidiaeth yn y rhanbarth – rhai sydd ddim yn dibynnu ar y draffordd.
“Ein ffocws nawr yw penderfynu ar y gwasanaethau trafnidiaeth ddylai lunio rhan o’r rhwydwaith trafnidiaeth hwn, yn enwedig gorsafoedd rheilffordd newydd, gwasanaethau bws dibynadwy a llwybrau beicio newydd.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi diolch i’r Comisiwn am yr adroddiad, a phwysleisio bod mynd i’r afael â thagfeydd yn “flaenoriaeth” i’r Llywodraeth.
“Diolchwn i’r Comisiwn am eu hadroddiad a’u gwaith parhaus. Mae mynd i’r afael â thagfeydd a gwella cysylltedd yn y rhanbarth yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni. Byddwn yn ystyried y canfyddiadau hyn ac yn ymateb maes o law,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Mwy o wastraff” meddai’r Ceidwadwyr Cymreig
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o wastraffu £43 miliwn ar “ffordd i nunlle.”
“Mae hyn yn embaras i’r Llywodraeth Lafur Gymreig, ac yn sarhad i drethdalwyr gweithgar sydd wedi gweld eu harian yn cael ei wastraffu,” meddai’r Gweinidog Economi, Busnes ac Isadeiledd, Russell George.
“Mae’r Llywodraeth wedi gwywo gan adael cymunedau yn Ne-ddwyrain Cymru heb ddatrysiad i’r tagfeydd, ac yn y cyfamser wedi gwastraffu miliynau o bunnoedd o arian y trethdalwyr.”