Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun i ddarparu £29 miliwn o gyllid ychwanegol i ysgolion er mwyn rhoi mwy o gymorth i ddisgyblion.

Bydd 600 o athrawon a 300 o gynorthwywyr addysgu ychwanegol yn cael eu cyflogi yn ystod y flwyddyn ysgol nesaf, gyda chymorth ychwanegol yn cael ei ddarparu i ddisgyblion ym mlynyddoedd 11, 12 a 13.

Mae’r arian hefyd yn mynd tuag at ddarparu mwy o gymorth i ddisgyblion difreintiedig neu agored i niwed.

Dywed y Llywodraeth y bydd hyn yn helpu i godi safonau disgyblion fydd yn sefyll arholiadau TGAU a Safon Uwch yn 2021.

Bydd staff yn cael eu recriwtio ar gytundeb tymor penodol o’r flwyddyn, cyn symud i swyddi addysgol yn y flwyddyn ysgol ganlynol.

Mae disgwyl i’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams gyhoeddi’r cynlluniau wrth gynnal cynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru i’r wasg am 12.30  heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 9).

“Codi safonau”

“Rwyf eisiau sicrhau bod gan ysgolion a disgyblion y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt drwy recriwtio staff ychwanegol i’w cefnogi yn y cyfnod adfer a pharhau i godi safonau fel rhan genhadaeth ein cenedl i ddiwygio addysg,” meddai Kirsty Williams.

“Ni ddylem byth ddisgwyl llai gan unrhyw berson ifanc, waeth beth fo’i gefndir. Dyna pam fod miloedd a miloedd yn fwy o ddisgyblion yng Nghymru bellach yn astudio ar gyfer cymhwyster TGAU Gwyddoniaeth, a pham ein bod yn perfformio’n well na’r gwledydd eraill o ran canlyniadau Safon Uwch a bod miloedd yn fwy yn astudio ac yn llwyddo ar lefelau uwch.

“Gyda’n gilydd, byddwn yn parhau i godi safonau i bawb, yn lleihau’r bwlch cyrhaeddiad ac yn sicrhau bod gennym system y gall y genedl i gyd fod yn falch ohoni a bod a hyder ynddi”.