Mae Senedd Cymru wedi cadarnhau mai Laura Anne Jones fydd yn olynu’r diweddar Aelod o’r Senedd, Mohammad Asghar.

Bu farw’r Aelod Ceidwadol o’r Senedd bythefnos yn ôl, a gan mai Aelod Rhanbarthol oedd e’ mi fydd y person nesaf ar restr ranbarthol y Ceidwadwyr yn cymryd ei le.

Laura Anne Jones yw’r person hwnnw, a dyma fydd yr eildro iddi gynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru yn y Senedd.

Roedd hi’n Aelod Cynulliad – cyn newid enw’r Senedd – rhwng 2003 a 2007, a hithau’n 24 oed. Bryd hynny roedd hi’n llefarydd i’r Ceidwadwyr tros chwaraeon.

Mae golwg360 ar ddeall y gallai dyngu ei llw cyn gynted â dydd Mercher nesa’.

“Gweithio’n galed”

Mae Laura Anne Jones wedi dweud “bod hyn yn gyfle cyffrous” ond mae hi’n “hynod o drist” o esgyn i’r rôl yn sgil marwolaeth Mohammad Asghar.

“Gyda llai na blwyddyn i fynd tan yr etholiadau Senedd Cymru nesa’ dw i’n edrych ymlaen at weithio’n galed i wasanaethu pobol fy etholaeth,” meddai.

“Edrychaf ymlaen hefyd at ddal Llywodraeth Llafur Cymru i gyfri – maen nhw wedi dal Cymru yn ôl am rhy hir.”

“Cryn dipyn o brofiad”

Mae Paul Davies, arweinydd grŵp y Ceidwadwyr, wedi dweud bod colled y diweddar Aelod yn drist, ond bod y Ceidwadwyr “yn hapus iawn” i groesawu ei olynydd.

“Does neb yn medru cymryd lle Oscar [llysenw Mohammad Asghar],” meddai.

“Ond dw i’n gwybod y bydd Laura yr un mor ymrwymedig wrth helpu pobol Dwyrain De Cymru, a bydd hi’n dod â chryn dipyn o brofiad i’r rôl newydd.”