Mae pob rhan o Wasanaeth Troseddau Ieuenctid Caerdydd yn “annigonol” meddai arolygwyr.

Daw’r feirniadaeth lem yn sgil arolwg gan Arolygiaeth Prawf ei Mawrhydi, ac mae’r gwasanaeth wedi’i gynghori i wella pob elfen o’i waith.

Mae adroddiad yr Arolygiaeth yn tynnu sylw at lu o ddiffygion a phryderon, ac mae sawl un o’r rhain yn gysylltiedig â rheolwyr ac uwch-swyddogion.

Doedd staff newydd ddim yn derbyn digon o hyfforddiant, a doedd rheolwyr ddim yn medru craffu ar eu gwaith am eu bod yn rhy brysur.

“Siomedig iawn”

“Mae’r canfyddiadau yma yn siomedig iawn,” meddai Prif Arolygydd y Gwasanaeth Prawf, Justin Russell.

“Roedd gennym bryderon difrifol am uwch-arweinwyr a strwythur y sefydliad, a safon ei waith â phlant sydd wedi troseddu, neu sy’n wynebu’r risg o droseddu.”

Ers yr arolwg, mae’n dweud bod uwch-reolwyr wedi dechrau ymateb i’w hargymhellion, a bellach mae rhagor o adnoddau ar gael iddyn nhw.