Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn darparu cyllid i elusen sy’n cynnig cyngor ar fagu plant a bywyd teuluol.

Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio er mwyn galluogi’r elusen i ymestyn y gwasanaeth i siaradwyr Cymraeg.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn gwneud hyn fel rhan o’u hymrwymiad i helpu rhieni yn ystod pandemig y coronafeirws.

Mae’r elusen Family Lives yn rhoi cymorth emosiynol, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i rieni ar draws Cymru a Lloger.

Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i benodi cynghorydd sy’n siarad Cymraeg i ymuno â’r tîm sy’n darparu cymorth.

“Heriau”

“Mae effaith cyfyngiadau Covid-19 wedi bod yn anodd iawn i rai teuluoedd, gyda rhieni’n wynebu heriau fel rheoli ymddygiad eu plant, rhannu cyfrifoldebau rhianta yn y cyfnod clo, a phryderu am eu lles a materion ariannol,” meddai’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Julie Morgan.

“Mae gwasanaeth Family Lives wedi bod yn darparu cyngor a gwybodaeth ers tro yng Nghymru ac mae’r cyllid hwn yn gam pwysig i sicrhau bod y cymorth hwnnw ar gael ac yn hygyrch i rieni sy’n teimlo’n fwy cysurus yn siarad Cymraeg.”

Tra bod Dirprwy Brif Weithredwr Family Lives, Pamela Park wedi dweud: “Mae Family Lives o’r farn y dylai pob teulu allu gael y cymorth a’r wybodaeth sydd eu hangen arnyn nhw cyn iddyn nhw gyrraedd sefyllfa argyfyngus.

“Mae hynny’n bwysicach nag erioed yn ystod y pandemig presennol.

“Rydyn ni’n hynod o falch bod ein llinell gymorth yn cynnig gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.”