Mae dyn wedi ei gyhuddo o geisio lladrata ddwywaith, ddau ddiwrnod yn olynol, yn Noc Penfro.

Yn ôl yr heddlu, roedd Jamie Rawlinson, o Gil-maen, Sir Benfro, wedi cyflawni’r ail drosedd dair awr yn unig ar ôl gadael y ddalfa ar amheuaeth o gyfawni’r drosedd gyntaf.

Arestiodd Heddlu Dyfed-Powys y dyn 28 mlwydd oed ar Fehefin 26 ar amheuaeth o geisio lladrata, ar ôl derbyn adroddiad ei fod wedi mynnu bod dyn yn rhoi arian iddo.

Roedd adroddiadau ei fod e’n dal gwrthrych miniog yn erbyn ei frest, ond pan gafodd ei archwilio, ddaethon nhw ddim o hyd i’r arf.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth amodol ond llai na thair awr yn ddiweddarach, cysylltodd dyn bregus â’r heddlu a dweud ei fod wedi ceisio dwyn oddi wrtho.

Cafodd ei arestio a’i gyhuddo o ddau achos o ladrata.

Bydd yn mynd gerbron Llys y Goron Abertawe ar Orffennaf 31.