Mae Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, yn dweud na fydd angen cyflwyno cyfyngiadau coronafeirws lleol os yw pawb yn parhau i ddilyn cyngor Llywodraeth Cymru.

Yn dilyn clo lleol yng Nghaerlŷr yr wythnos hon oherwydd cynnydd mewn achosion o’r coronafeirws, cafodd y Gweinidog Iechyd eil holi yn y gynhadledd ddyddiol heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 30) a fyddai hynny’n ystyriaeth yma yng Nghymru pe bai angen.

Mae sawl achos wedi dod i’r amlwg ym Môn a Wrecsam mewn gweithwyr mewn gweithfeydd cynhyrchu bwyd, ac o ganlyniad, wnaeth ysgolion Ynys Môn ddim agor yr wythnos yma fel gweddill y wlad.

Ond mae Vaughan Gething yn dweud nad yw’n gallu manylu ar hynny a bod angen i benderfyniadau o’r fath gael eu gwneud yn unol ag “achosion lleol penodol”.

“Mae gwaith yn cael ei wneud gan y cyflogwyr ac maen nhw’n ymateb yn gyfrifol,” meddai.

“Dyw ysgolion yn Ynys Môn ddim yn agor yr wythnos yma.

“Mae’n dibynnu’n llwyr ar y ffordd y mae pobol yn ymateb i gyngor i gael eu profi.”

Ond petai angen gweithredu clo o’r fath, meddai, byddai’n gyfyngiad sydd wedi “ei dargedu ac yn ddoeth ar gyfer y bobol hynny a’u teuluoedd”.

Os ydi pawb dilyn y canllawiau hynny, ychwanegodd, fydd dim angen cymryd camau pellach.

Ymwelwyr

Dywedodd hefyd ei fod yn deall gofidion rhai o drigolion ardaloedd yn Sir Benfro a Cheredigion sydd wedi llwyddo i gadw lefelau eu heintiau yn isel dros y cyfnod yma.

Ganol mis Gorffennaf, bydd rhai mannau gwyliau yn cael ailagor, ac maen debyg fod rhai yn yr ardaloedd hynny sydd yn croesawu llawer o dwristiaid fel arfer yn poeni y bydd hyn yn cynyddu’r lefelau o achosion.

Gofynnodd Vaughan Gething i bobol, pan fyddan nhw’n cael ymweld â Chymru, eu bod nhw’n gwneud hynny mewn modd “cyfrifol”.