Mae swastika wedi ymddangos ar wal Cofiwch Dryweryn ger Llanrhystud, ac fe fu’n rhaid i’r wal gael ei glanhau.

Wrth dynnu sylw at y digwyddiad ar ei thudalen Twitter, dywed Elin Jones, Llywydd y Cynulliad ac Aelod Cynulliad Ceredigion, fod y weithred yn un “afiach”.

Ac mewn neges at golwg360, dywed y ffotograffydd Marian Delyth iddi sylwi ar y graffiti wrth fynd heibio’r wal heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 30).

“Dw i ddim wedi pasio fan hyn ers deg diwrnod ond fe sylwais hanner awr yn ôl bod graffiti ar wal Cofiwch Dryweryn,” meddai.

Hanes o fandaliaeth

Nid dyma’r tro cyntaf i rywrai dargedu’r wal.

Cafodd ei dymchwel fis Ebrill y llynedd.

Mae’r wal a’r slogan ‘Cofiwch Dryweryn’, a gafodd ei baentio gan Meic Stephens a Rodric Evans, yn adnabyddus ledled Cymru ar ôl iddo gael ei baentio yno yn y 1960au yn sgil boddi Capel Celyn i roi dŵr i Lerpwl.

Diweddariad

Mae’r wal eisioes wedi’i chywiro!

Gyda’r Aelod o’r Senedd lleol, yr heddlu a’r Cyngor lleol yn rhan o’r ymdrech.