Mae’n rhaid i Ynys Môn barhau i fod yn etholaeth ar ei phen ei hun yn Senedd y Deyrnas Unedig, yn ôl Plaid Cymru.

Daw hyn yn sgil cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i leihau nifer y cynrychiolwyr mae Cymru’n eu hanfon i San Steffan, gyda deddfwriaeth sy’n mynd gerbron y Senedd ar hyn o bryd.

Mae Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion, wedi cyflwyno cyfres o welliannau i’r Bil Etholaethau Seneddol, a fyddai’n sicrhau nad yw Ynys Môn yn diflannu fel etholaeth a bod Cymru yn cadw eu 40 o Aelodau Seneddol.

Byddai Cymru, yn ôl y cynnig, yn colli wyth sedd yn Nhŷ’r Cyffredin – mwy nag unrhyw wlad arall neu ranbarth yn Lloegr – er na fyddai unrhyw bwerau ychwanegol yn cael eu datganoli i Gymru.

‘Llai o lais’

“Bydd llais Cymru’n cael ei leihau yn sgil y ddeddfwriaeth hon,” meddai Ben Lake.

“Ni all San Steffan fwrw ymlaen gyda’r newidiadau hyn os yw’n gobeithio cynrychioli cymunedau Cymru.”

Dywed Rhun ap Iorwerth, Aelod o’r Senedd yn Ynys Môn, y dylai’r Ynys dderbyn yr un statws ag ynysoedd eraill y Deyrnas Unedig.

“Dyw ffin ynys ddim yn fympwyol, ac mae Ynys Môn wedi bod yn uned ddemocrataidd ar lefel llywodraeth leol a seneddol er canrifoedd,” meddai.

“Mae ynysoedd eraill o amgylch y Deyrnas Unedig wedi cael yr hawl i wyro tu allan i gyfyngiadau maint etholaethau.

“Dylai Ynys Môn gael ei thrin yr un fath”.

Mae golwg360 wedi cysylltu â Virginia Crosbie, aelod seneddol Ceidwadol Ynys Môn, gan ofyn iddi a yw hi’n dymuno gweld Ynys Môn yn parhau’n etholaeth ar ei phen ei hun, neu a fydd hi’n cefnogi deddfwriaeth y Blaid Geidwadol.