Mae dros gant o addysgwyr yn Sir Gaerfyrddin a Dyffryn Teifi wedi llofnodi llythyr sydd wedi’i drefnu gan Gymdeithas yr Iaith yn erbyn gorfodi plant pedair oed i ddysgu Saesneg yn yr ysgol.

Mae’r llythyr, sy’n cael ei anfon at yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams, yn galw arni i dynnu allan o Fil y Cwricwlwm.

Mae 115 o addysgwyr wedi llofnodi’r llythyr, ac yn eu plith mae athrawon, swyddogion addysg a llywodraethwyr presennol ac eraill sydd wedi gwasanaethu dros y 30 mlynedd diwethaf.

Daw’r gwrthwynebiad hwn ar ben dwy neges arall at y Gweinidog yn gwrthwynebu’r orfodaeth Saesneg yr wythnos ddiwethaf , un gan y Cynghorydd Emlyn Dole, arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, a’r llall gan Fforwm Iaith Sir Caerfyrddin.

Peidiwch â “throi’r cloc yn ôl”

“Gan ein bod wedi cael gwybod fod Bil y Cwricwlwm i’w gyhoeddi ddydd Llun nesaf (Gorffennaf 6), fe ddanfonon ni wahoddiad yn syth dros y penwythnos at addysgwyr i lofnodi’r llythyr gan fod teimlad cryf y byddai gorfodi plant i dderbyn addysg Saesneg yn troi’r cloc yn ôl rhyw 30 mlynedd yn ein hardal ni ac yn ei wneud yn galetach i ysgolion eraill i symud at addysg Gymraeg,” meddai Bethan Williams, ysgrifennydd lleol Cymdeithas yr Iaith.

“Derbyniodd pawb cyn diwedd y ganrif ddiwethaf mai dim ond trwy ddull trochi yn y Gymraeg o’r oed cynharaf y byddai plant yn gallu siarad a gweithio’n Gymraeg.

“Dyma ddadl a setlwyd ar ddechrau’r 1990au, a byddai gorfodi pob ysgol unigol i gyflwyno achos dros eithrio o drefn Saesneg orfodol yn ailgynnau hen ddadleuon.

“Byddai’n atal ein plant oll, yn enwedig plant newydd-ddyfodiaid, rhag gallu chwarae rhan llawn ym mywyd eu cymunedau.

“Cawsom ein llethu gan yr ymateb cadarnhaol gan addysgwyr lleol a’n gobaith yw y bydd Kirsty Williams yn cydnabod mai camgymeriad yw hyn, ac yn gadael gorfodaeth i gyflwyno Saesneg o’r oed cynharaf mas o’r Bil.”