Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, yn dweud y bydd ei lywodraeth yn parhau i weithredu’n “ofalus a gochelgar, un cam ar y tro” yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws.
Fe ddywedodd wrth raglen Sophy Ridge on Sunday ar Sky News ei fod e’n cynnig “neges lawer mwy pwyllog” na Boris Johnson yn San Steffan.
Cafodd pump yn rhagor o farwolaethau eu cyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddoe (dydd Sadwrn, Mehefin 27), sy’n mynd â’r cyfanswm i 1,502.
Mae 15,577 o achosion wedi’u hadrodd erbyn hyn, gyda’r ffigurau’n debygol o fod yn sylweddol uwch yn sgil y ffordd mae achosion a marwolaethau’n cael eu hadrodd a’u cofnodi.
“Byddwn ni’n parhau i wneud pethau yn y modd rydyn ni wedi bod yn gwneud pethau yng Nghymru – yn ofalus a gochelgar, un cam ar y tro,” meddai.
“Fe wnaethon ni roi ein holl ymdrechion i mewn i gynllunio yn y lle cyntaf a wedyn cyhoeddi, nid gwneud cyhoeddiad a meddwl wedyn sut y gallwch chi wneud i’r pethau hynny ddigwydd.”
‘Llai o sylwedd’
Mae’n dweud bod “llai o sylwedd” i’r hyn y mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, wedi bod yn ei wneud wrth ymateb i’r feirws.
“Fy mhryder o ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw fod yna lai o sylwedd weithiau, lle dw i’n credu ein bod ni i gyd yn ceisio gwneud yr un peth ar y cyfan.
“Dw i’n poeni mwy am y negeseuon, y ffordd mae pethau’n cael eu disgrifio.
“Yma yng Nghymru, dw i’n awyddus iawn i barhau i ddweud wrth drigolion Cymru nad yw’r coronafeirws wedi mynd i ffwrdd.
“Mae’n dal yn rhywbeth sy’n lladd pobol yng Nghymru bob dydd.
“Os nad ydych chi’n cadw trefn ar y peth, fe welwch chi bethau’n mynd am yn ôl a phopeth rydyn ni wedi ei wneud yn cael ei daflu i ffwrdd.
“Mae hynny’n neges wahanol iawn i’r neges yr ochr arall i’r ffin lle mae’r neges yn ymddangos yn fwy o lawer fel ’mae’r cyfan ar ben a gallwch chi fynd yn ôl i wneud popeth fel yr oeddech chi’n eu gwneud nhw o’r blaen’.”