Mae Vaughan Gething wedi amlinellu sut fydd Llywodraeth Cymru’n cadw plant yn ddiogel wrth iddyn nhw ddechrau dychwelyd i’r ysgol o ddydd Llun (Mehefin 29).

Daeth cyhoeddiad gan Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, ar Fehefin 3 fod cynllun ar waith i ddychwelyd plant i’r ysgol ar raddfa gyfyngedig fel bod modd dal i fyny ar yr amser sydd wedi’i golli ac i baratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi.

Mae rheolau pellter cymdeithasol eisoes wedi’u cyhoeddi, ond mae Vaughan Gething wedi amlinellu rhagor o gynlluniau.

Mesurau

Mae’n dweud y bydd system Brofi, Olrhain a Diogelu’r Gwasanaeth Iechyd yn ei le er mwyn ymdrin ag unrhyw achosion o’r coronafeirws sy’n codi mewn ysgolion.

Bydd byrddau iechyd yn hwyluso prawf antigenau ar gyfer ‘swigod’ mewn ysgolion neu leoliadau addysg – grwpiau o ddim mwy nag wyth person ar y tro.

Bydd mesurau yn eu lle hefyd i gefnogi disgyblion lle nad yw’r holl fesurau priodol wedi’u dilyn gan ysgolion.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at y byrddau iechyd lleol a’r Cyfarwyddwyr Addysg i sicrhau bod y cynlluniau hyn yn cael eu cyfathrebu’n glir a bod pawb yn deall eu swyddogaeth o ran sicrhau bod unrhyw achosion yn cael eu hadrodd yn gyflym fel y gall y timau Profi, Olrhain, Diogelu ddarparu’r ymateb cyflym disgwyliedig i ddiogelu plant a staff a lleihau unrhyw achosion pellach o’r haint,” meddai Vaughan Gething.

“Bydd Rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu GIG Cymru, mewn partneriaeth â’r Byrddau Iechyd Lleol, yn sicrhau bod profion ar gael yn gyflym i gefnogi unrhyw achosion, er enghraifft drwy ddefnyddio Unedau Profi Symudol.”

Profion Gwrthgyrff

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn sicrhau bod profion gwrthgyrff ar gael i o leiaf 10% o staff ysgolion sydd wedi gweithio mewn hybiau yn ystod ymlediad y feirws.

Yn ôl Vaughan Gething, mae hynny’n golygu y bydd mwy na 9,000 o bobol yn cael y prawf.

“Bydd hyn yn ein helpu i ddeall serogyffredinolrwydd y feirws yn y cohort hwn.

“Byddwn yn ailadrodd y profion gwrthgyrff ar ddiwedd y tymor gyda grŵp sampl ychwanegol sy’n cynnwys y gymuned ysgol ehangach.

“Bydd ailbrofi’r cohort gwreiddiol yn rhoi gwybodaeth inni am ba mor hir y bydd unigolion sydd wedi cael canlyniad positif yn flaenorol yn dal i gael canlyniad positif, a bydd yn rhoi gwybodaeth inni am y gyfradd serodrawsnewid mewn unigolion a oedd wedi cael canlyniad negatif yn flaenorol.

“Bydd yr ail o’r rhain yn rhoi amcan newydd inni o’r cyffredinolrwydd pwynt dros amser a gwybodaeth am y newidiadau mewn nifer achosion yn y cohort hwn dros amser.

“Mae cynnig profion yn rhan o’n hymateb iechyd y cyhoedd a chadw plant a staff ysgolion yn saff.

“Fel yr wyf wedi’i nodi yn flaenorol, byddwn yn parhau i adolygu’r dystiolaeth gan ymateb a gweithredu yn unol â hyn.”