Mewn 23 ardal drwy Brydain, gwelwyd cynnydd yn y boblogaeth o fwy na 25% ers 2001 yn ôl amcangyfrif newydd gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol.

Mae’r cynnydd mwyaf wedi bod mewn llefydd yn Llundain ble mae ‘na gynnydd o 61.5% wedi bod yn y boblogaeth yn Tower Hamlets. Gwelwyd hefyd gynnydd o 30.7% yn Manceinion rhwng 2001 a 2019 medd y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol.

Cymru

Nid oes ardal yng Nghymru yn cael ei chynnwys yn y 23 o’r ardaloedd hynny sydd wedi gweld y boblogaeth yn cynyddu dros 25%.

Ond yng Nghymru, Caerdydd welodd y cynnydd mwyaf, gyda’r boblogaeth yn cynyddu hyd at 18.3%.

Tra bod Ceredigion wedi gweld gostyngiad o 3.6% yn y boblogaeth, a Blaenau Gwent 0.2%.

Gostyngiadau mwyaf

Nid yw pob ardal wedi gweld y mathau yma o gynnydd dros y deunaw mlynedd diwethaf – gwelodd 18 o gynghorau lleol ym Mhrydain eu poblogaethau’n lleihau.

Roedd y cwymp mwyaf yn Inverclyde yn yr Alban, lle amcangyfrifir bod y boblogaeth wedi gostwng 7.5%.

Gwelwyd cwymp sylweddol mewn dwy ardal arall yn yr Alban: Argyll & Bute (i lawr 5.9%), Gorllewin Dunbartonshire (i lawr 4.7%).

Y gostyngiad mwyaf o ran canran yn Lloegr oedd Barrow-in-Furness, lle gwelwyd gostyngiad o 6.8% yn y boblogaeth.