Mae Llywodraeth Cymru a’r prif weinidog Mark Drakeford wedi gwneud cyhoeddiad yn atgoffa pobol nad yw cyfyngiadau’r coronafeirws wedi newid yng Nghymru.

Fe ddaw ar ôl i Boris Johnson, prif weinidog Prydain, gyhoeddi bod y cyfyngiadau’n cael eu llacio yn Lloegr.

Tra bod pellter cymdeithasol yn Lloegr bellach yn golygu “metr a mwy”, mae’r rheol dau fetr yn aros yng Nghymru am y tro.

“Mae’r newidiadau i’r rheol 2 fetr a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU heddiw yn berthnasol i Loegr yn unig,” meddai Mark Drakeford.

“Bydd y rheol 2m yn parhau yma yng Nghymru, i helpu lleihau lledaeniad coronafeirws.

“Rydym yn adolygu’r rheol hon yn gyson – ein blaenoriaeth ni yw achub bywydau.”

Cynadleddau i’r wasg

Ac yn dilyn y cyhoeddiad bod cynadleddau dyddiol Downing Street yn dod i ben, mae Llywodraeth Cymru’n dweud bod eu cynadleddau nhw am barhau am y tro.

Byddem yn parhau i gynnal cynhadledd i’r wasg ar y coronafeirws pob dydd Llun i ddydd Gwener am 12:30,” meddai neges ar Twitter.

“Mae’n cael ei ddarlledu yn fyw ar ein sianeli Trydar a Facebook, ac ar @BBCWales, @ITVWales, ac @S4C.”