Alec Warburton - wedi diflannu o'i gartre' yn Sgeti ers Gorffennaf 31
Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi fod cyn-denant dyn a aeth ar goll o’i gartre’ yn Abertawe ddiwedd mis Gorffennaf eleni, wedi’i arestio yn Iwerddon.

Fe gafodd David Ellis ei ddwyn i’r ddalfa gan swyddogion y Garda.

Does neb wedi gweld ei landlord, Alec Warburton ers iddo ddiflannu o’i gartre’ yn ardal Sgeti, Abertawe, ar Orffennaf 31.

Mae Heddlu Gogledd Cymru’n cydweithio gyda’r awdurdodau yn Iwerddon i drefnu i ystraddodi David Ellis i’r Deyrnas Unedig.