Jeremy Corbyn yn y Senedd ddoe
Fe fydd Jeremy Corbyn yn parhau i benodi aelodau o gabinet yr wrthblaid heddiw ar ôl iddo gael cyfarfod anodd gydag Aelodau Seneddol yn y Senedd ddoe.

Mae arweinydd newydd Llafur hefyd yn teithio i Brighton i annerch cynhadledd Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) lle mae disgwyl iddo amlinellu ei gefnogaeth i’r ymgyrch i atal cynlluniau i newid rheolau cynnal streic.

Mae disgwyl i’w araith gael croeso mwy cynnes na gafodd yn ei ymddangosiad cyntaf yn ei swydd newydd yn y Senedd ddoe.

Dywedodd Jeremy Corbyn mai ei flaenoriaethau yw’r etholiadau yng Nghymru a’r Alban y flwyddyn nesaf, cartrefi ac ennill yr etholiad cyffredinol yn 2020.

Yn gynharach roedd llefarydd materion tramor y blaid,  Hilary Benn, wedi ceisio lleddfu pryderon ymhlith nifer o ASau Llafur bod Corbyn yn bwriadu ymgyrchu o blaid Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm y flwyddyn nesaf.

Dywedodd llefarydd busnes Llafur Angela Eagle ei bod yn rhy gynnar i ddweud sut fyddai’r blaid yn ymgyrchu.

Fe fydd Jeremy Corbyn yn cyhoeddi gweddill aelodau ei gabinet o fewn y dyddiau nesaf.

Mae disgwyl iddo wynebu Cwestiynau’r Prif Weinidog am y tro cyntaf fel arweinydd Llafur yfory.