Mae Heddlu’r Gogledd yn ymchwilio i aelod o staff dysgu awdurdod addysg Cyngor Gwynedd.
Dywed yr heddlu bod yr unigolyn wedi cael ei arestio ac ar fechnïaeth yr heddlu tan yn gynnar yn 2016 tra bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal.
Mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau fod yr aelod o staff wedi eu hatal o’r gwaith nes bod yr ymchwiliad wedi’i gwblhau.
Yn ôl y BBC mae’r unigolyn yn aelod o staff ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon ond nid yw’r heddlu na’r cyngor wedi cadarnhau hynny.
Nid yw’r heddlu wedi dweud beth yw natur eu hymchwiliad.