Joseph Smith
Mae Heddlu’r De wedi cyhoeddi enw’r bachgen 5 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd fore ddoe.

Cafodd Joseph Smith  o Laneirwg ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd ond bu farw’n ddiweddarach.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng tri char ar Rodfa’r Gorllewin am oddeutu 11.30 bore dydd Sul.

‘Llawn bywyd’

Dywedodd modryb Joseph Smith   mewn datganiad ar ran ei deulu ei fod yn “blentyn cariadus a oedd yn llawn bywyd, ac  roedd wrth ei fodd yn chwarae pêl-droed.”

“Mae bwlch wedi’i adael gan farwolaeth Joseph.”

Fe ddigwyddodd y ddamwain rhwng tri cherbyd – Ford Focus llwyd, Ford Focus gwyrdd a Seat gwyn.

Roedd Joseph Smith yn teithio yn y  Ford Focus  llwyd gyda dwy ddynes a merch dwy oed. Maen nhw i gyd yn parhau mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, ynghyd a’r dyn oedd yn gyrru.

Cafodd pedwar o bobl eraill – dyn, dwy ddynes, a bachgen 3 oed – oedd yn teithio yn y ddau gerbyd arall, hefyd eu cludo i’r ysbyty.

Mae’r heddlu yn parhau i apelio am dystion i’r digwyddiad, a dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.