Cafodd un person ei anafu’n ddifrifol mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A470 y bore ma.

Fe ddigwyddodd y ddamwain rhwng dwy fan wen Ford Transit ar y A470 rhwng Dinas Mawddwy a Dolgellau toc cyn 8  bore dydd Iau.

Cafodd un person ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol ond mae’n debyg nad ydyn nhw’n rhai sy’n bygwth ei fywyd.

Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am dystion i’r ddamwain a dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth eu ffonio ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan nodi’r rhif cyfeirnod S130482.

Mae’r heddlu hefyd yn cynghori gyrwyr i osgoi’r ardal tra bod y gwasanaethau brys yn cwblhau eu hymchwiliad.