Mae swyddogion o Ymchwiliad Pallial wedi arestio dyn 75 oed o Wlad yr Haf ar amheuaeth o ymosod yn anweddus ar fachgen.

Mae Pallial yn ymchwilio i honiadau o achosion hanesyddol o gam-drin rhywiol mewn cartref gofal yng ngogledd Cymru ac yn cael ei arwain gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA).

Mae’r dyn yn cael ei holi gan swyddogion yr NCA yng ngorsaf yr heddlu yn Wells, Gwlad yr Haf.

Honnir bod y troseddau wedi digwydd rhwng 1979 a 1980 pan oedd y bachgen rhwng 11 a 12 oed ac mewn cartref gofal yn y gogledd.

Dywed yr heddlu na fyddan nhw’n rhyddhau manylion pellach ar hyn o bryd.

Mae 42 o bobl bellach wedi cael eu harestio fel rhan o Ymchwiliad Pallial ac mae 15 o bobl wedi cael eu cyhuddo.