Fe gafodd dyn 62 oed ei anafu yn ei gartre’ yn Abertawe ddoe, am iddo fynd i herio lleidr oedd wedi torri i mewn i’w dy.

Mae Heddlu De Cymru bellach yn apelio am dystion er mwyn dod o hyd i’r lleidr.

Fe ddigwyddodd y lladrad yn ardal Cwrt St Lawrence yn Abertawe, yn ystod oriau mân bore Gwener. Fe gafodd yr heddlu eu galw tua 2.30yb.

Roedd y gwr 62 oed wedi clywed swn yn dod o gegin ei gartre’, ac wedi penderfynu mynd i herio’r lleidr a oedd wedi dod i mewn trwy ffenest.

Wedi herio’r lleidr, fe gafodd y pensiynwr ei anafu, ac fe aeth y lleidr yn ei flaen i fynd trwy’r ty i chwilio am bethau i’w dwyn.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth, gan mai dyma’r pedwerydd digwyddiad tebyg yn yr un ardal er dechrau mis Gorffennaf.