Glyn Wise
Mae’n heb bryd cicio homoffobia allan o fyd y campau, meddai ymgeisydd Cynulliad Plaid Cymru dros Ganol Caerdydd, Glyn Wise.

Fe fydd Cymru’n cynnal nifer o gemau yng Nghwpan Rygbi’r Byd, sy’n dechrau fis nesaf, ac mae Glyn Wise o’r farn bod homoffobia yn llawer iawn rhy gyffredin ym myd chwaraeon – boed ar y cae neu ymhlith cefnogwyr.

Dywedodd fod ei blaid yn barod i ymgyrchu i sicrhau bod mwy o bobol o’r gymuned LGBT yn cymryd rhan mewn clybiau chwaraeon ac i leihau achosion o homoffobia ar y terasau.

Ar drothwy digwyddiad Mardi Gras Pride Cymru yng Nghaerdydd, dywedodd Glyn Wise: “Mae gan chwaraeon draddodiad balch o dynnu pobol o bob math o gefndiroedd ynghyd, gan roi gwahaniaethau gwleidyddol a chymunedol o’r neilltu, ond yn drist iawn, mae homoffobia’n parhau’n broblem gyffredin.”

Yn ystod arolwg byd-eang o homoffobia yn y byd chwaraeon y llynedd, dywedodd tua hanner y rhai oedd wedi ymateb eu bod nhw’n hoyw, a dywedodd 84% eu bod nhw wedi clywed sylwadau homoffobig yn ystod digwyddiadau chwaraeon.

“Dw i am weld y byd chwaraeon yn uno i daclo’r mater hwn fel y gallwn ni gicio homoffobia allan o’r byd chwaraeon unwaith ac am byth,” meddai Glyn Wise.

“Mae unigolion fel Gareth Thomas a Nigel Owens wedi profi eu bod nhw’n fodelau rôl ardderchog i bobol ifanc LGBT a allai fod wedi cilio o’r byd chwaraeon oherwydd eu bod nhw’n ofni cael eu neilltuo.

“Gobeithiaf weld llawer iawn mwy o enwogion yn dilyn eu hesiampl ac yn defnyddio’u proffil a’u dylanwad i hyrwyddo cydraddoldeb a goddefgarwch ar draws bob un o’r campau.”