James Mark Williams
Mae Heddlu’r De wedi rhyddhau llun o ddyn maen nhw’n awyddus i’w holi  mewn cysylltiad â llofruddiaeth dyn 35 oed yng Nghaerdydd.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth am James Mark Williams, 31, o ardal Y Barri er mwyn ei holi mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Cafwyd hyd i Russell Peachey o Gaerdydd yn anymwybodol ar Stryd y Gogledd yn y brifddinas fore Sadwrn yn dilyn ymosodiad.

Cafodd ei ddarganfod am oddeutu 4.20yb gan yr heddlu, a’i gludo i’r ysbyty lle bu farw’n ddiweddarach.

Mae’r heddlu’n trin ei farwolaeth fel achos o lofruddiaeth.

Mae Heddlu’r De eisoes yn holi tri dyn arall mewn cysylltiad â’r llofruddiaeth.

Maen nhw’n parhau i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am James Williams neu a oedd yn  ardal Stryd y Gogledd, Stryd Thomas a Heol Penarth rhwng 3.30 a 4.20yb i gysylltu â Heddlu’r De ar 101 neu Taclo’r Taclau’n ddienw ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod 1500279043.