Canolfan ganser Maggie's yn Abertawe
Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud mewn canolfan ganser yn Ysbyty Singleton, Abertawe wedi cael ei ganmol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mark Drakeford.

Rhoddwyd £1.5m gan Lywodraeth Cymru tuag at ddatblygu canolfan ganser Maggie’s yn Abertawe, a agorwyd yn swyddogol gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones, ym mis Rhagfyr 2011.

Rhwydwaith o ganolfannau galw-i-mewn ledled y DU yw canolfannau Maggie’s. Eu nod yw helpu unrhyw un sydd wedi cael ei effeithio gan ganser.

Maen nhw’n cynnig cymorth ymarferol, emosiynol a chymdeithasol yn rhad ac am ddim i bobl â chanser, eu teuluoedd a’u ffrindiau.

Mae’r ganolfan yn Abertawe yn darparu arbenigwyr cymorth canser, cynghorwyr ar fuddiannau, maethegwyr a seicolegwyr a all gefnogi cleifion.

‘Cydweithrediad’

Wrth ymweld â’r ganolfan, dywedodd yr Athro Mark Drakeford:

“Mae gwaith yr elusen hon yn enghraifft ragorol o sut y gall ac y dylai’r trydydd sector a GIG Cymru gydweithio i ddiwallu anghenion cleifion.

“Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud gan Maggie’s yn ategu’r GIG ond mae hefyd yn wahanol iawn. Mae’r cymorth sy’n cael ei gynnig gan Maggie’s yn dechrau o safbwynt y claf ac ymateb i’w sefyllfa unigol ef.

“Fy ngobaith yw y gall y cydweithrediad parhaus hwn ddal ati i gefnogi ymdrechion ehangach cymdeithas i fynd i’r afael â baich canser ar unigolion ac ar y gwasanaeth iechyd.

“Yn ôl arolwg diweddar a gynhaliwyd gan Gymorth Canser Macmillan, roedd 89% o’r cleifion yn ystyried bod eu gofal yng Nghymru naill ai’n rhagorol neu’n dda iawn. Mae hyn yn glod i’r staff GIG ymroddedig iawn sydd gennym, ac i wasanaethau cymorth canser fel y rhai sy’n cael eu cynnig gan Maggie’s.”