Rhai o redwyr Marathon Llwybr Eryri (llun: AAH Events)
Cynhaliwyd Scott Marathon Llwybr Eryri am y tro cyntaf dros y Sul ger Llanberis.
Roedd y marathon llwybrau newydd yn “llwyddiant mawr” yn ôl Lee Jones, un o’r trefnwyr a Swyddog Marchnata a Chyfathrebu’r Snowdonia Trail Marathon – math newydd o farathon sy’n mynd traws gwlad yn hytrach nag ar y ffyrdd.
Dyma’r tro cynta’ iddyn nhw gynnal y digwyddiad a ddenodd tua 700 o redwyr a’r nod, meddai Lee Jones, yw denu 1,000 o redwyr y flwyddyn nesa’, ac mae tua 200 eisoes wedi cofrestru eu diddordeb i gymryd rhan.
Canlyniadau
Cynhaliwyd sawl digwyddiad a dyma’r enillwyr;
Hanner Marathon i Ddynion: Dan Doherty
Hanner Marathon i Fenywod: Enid Gruffudd
Marathon Llawn i Ddynion: Stuart Walker
Marathon Llawn i Fenywod: Katie Beecher
‘Sialens go iawn’
Dechreuodd a gorffennodd y ras yn Llanberis ac roedd gwefan y trefnwyr yn nodi y byddai “Marathon Llwybr Eryri yn rhoi sialens go iawn” i’r sawl a fentrodd.
Yn ôl Lee Jones, roedd y gwynt wedi cynnig sialens bellach i’r rhedwyr. Ond, er hynny, roedd tua 300 o gefnogwyr wedi gwylio’r ras hefyd.
Nid dyma’r digwyddiad rhedeg cynta’ i’r trefnwyr, yn ôl Lee Jones sydd wedi bod yn rhan o drefnu Hanner Marathon Ynys Môn a Hanner Marathon Rugby, Swydd Warwig hefyd.
Fe fydd y trefnwyr yn cyfarfod yn fuan i bwyso a mesur llwyddiant y digwyddiad eleni.
Ymateb trwy drydar
Roedd nifer o negeseuon trydar wedyn yn canmol y ras. Mae hwn gan redwraig o’r enw Karen Massey yn nodweddiadol:
“Wedi cwblhau’r ras lawn llwybr cyntaf #snowdoniatrailmarathon. Am griw hyfryd o bobl yr ydych chi redwyr llwybr. Cefnogaeth & lletygarwch gwych.
“Digwyddiad newydd trawiadol ar gyfer Llanberis wedi’i drefnu’n berffaith – yr wyf yn gobeithio ei fod yn aros!”