Loriau yn ciwio yn Calais (llun: PA)
Mae cwmnïau loris o Gymru wedi dweud eu bod nhw’n diodde’n ariannol wrth i drafferthion gyda streic ym mhorthladd Calais barhau.

Mae tagfeydd wedi bod yn ffurfio am filltiroedd naill ochr i’r Sianel wrth i weithwyr porthladd yn Calais streicio dros y dyddiau diwethaf ymysg pryder am eu swyddi.

Dywedodd S&K Logistics o’r Barri wrth Golwg360 fod eu cwmni yn colli arian wrth i gerbydau eistedd yn segur tra bod cwmni cludiant arall, Mansel Davies, bellach yn gorfod defnyddio porthladdoedd eraill i osgoi’r tagfeydd.

Osgoi Calais

“Fe gawson ni drafferthion ychydig wythnosau yn ôl yn mynd drwy Calais, [a] ni ddim yn mynd drwyddo fanno bellach,” meddai llefarydd ar ran Mansel Davies.

“Mae’n loris ni’n mynd drwy Rotterdam nawr, i osgoi’r drafferth. Roedden ni’n clywed bod y delays yn eithaf gwael yna [yn Calais] ddoe.”

Ond mae hynny wedi creu trafferthion ychwanegol i deithwyr yn ogystal â chwmnïau loris, sydd eisoes yn ceisio ymdopi gyda mewnfudwyr sydd yn ceisio dringo ar eu cerbydau.

‘Oedi o hyd’

Mae cerbydau S&K o’r Barri yn gwneud tua 10,000 taith drwy Calais bob blwyddyn, ac yn ôl llefarydd ar ran y cwmni maen nhw wedi bod yn dioddef oherwydd y trafferthion drwy’r haf.

“Dyw’r trafferthion diweddaraf ddim mor ddrwg ag oedd hi bythefnos yn ôl, ond maen nhw’n dal i achosi problemau i ni,” meddai’r llefarydd.

“Mae streic ffermwyr yn Ffrainc hefyd yn golygu bod lot o draffig a fyddai’n defnyddio porthladdoedd y gorllewin nawr yn dod lan drwy Calais.”

‘Dim digon o fferis’

“Does jyst ddim digon o fferis ar y funud i ddelio gyda’r tagfeydd,” meddai’r llefarydd, “a dim ond chwech trên Eurotunnel sydd yn mynd bob awr ar y funud, fydd hynny ddim yn cynyddu nes 2016.

“Wedyn bob tro mae mewnfudwr yn ceisio neidio ar drên, mae hynny’n achosi rhagor o dagfeydd yn Calais a Dover ac mae’r gwasanaeth yn dod i stop.

“Dyw’r tryciau ddim yn gwneud cymaint ag oedden nhw ar hyn o bryd, ac mae’n costio mwy os oes rhaid i chi fynd drwy borthladdoedd eraill. Mae gennych chi gerbydau’n aros i bethau glirio neu eistedd mewn tagfeydd milltiroedd o hyd yn Dover, Calais neu Dunkirk, felly dydyn nhw ddim yn gwneud cymaint o siwrnai ac y dylen nhw fod.”

Beio’r llywodraeth

Er mwyn gwarchod y lorïau rhag mewnfudwyr yn Calais sydd yn ceisio dianc i Brydain y tu mewn iddyn nhw, mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi y byddan nhw’n adeiladu llecyn saff i loriau aros yn y porthladd cyn croesi.

Ond does dim disgwyl i’r parth ar gyfer 250 o gerbydau fod yn barod tan yr hydref, ac mae’n annhebygol o wneud gwahaniaeth mawr yn ôl llefarydd S&K Haulage.

“Mae gennych chi dros 250 cerbyd yr awr yn pasio drwy Calais fel arfer, felly yn y sefyllfa bresennol fyddai cael lle i 250 cerbyd yn eistedd yna [yn y parth] ddim digon da,” meddai’r llefarydd.

“Falle pan mae’r tagfeydd yn clirio, ond ar hyn o bryd dim ond capasiti o awr fyddai hynny.”

Llywodraeth ar fai

Ac mae’r cwmnïau lori yn beio llywodraeth Prydain am y sefyllfa sydd wedi arwain at y streic yn Calais yn y lle cyntaf.

“Comisiwn y DU (sydd yn cael ei gadeirio gan y llywodraeth) oedd y rhai ddywedodd fod monopoli yn y lle cyntaf, ac fe wnaethon nhw orfodi Eurotunnel i werthu eu fferis,” meddai’r llefarydd.

“Felly fe gawn nhw feio pobl faint fynnwn nhw [am y trafferthion diweddar] ond nhw wnaeth achosi’r peth i ddechrau.”