Ysbyty Maelor Wrecsam
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi mynegi pryder yn sgil arolwg gan yr Arolygaeth Gofal Iechyd o uned iechyd meddwl Heddfan yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
Cafodd yr arolwg ei gynnal ym mis Ebrill cyn i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr gael ei roi o dan fesurau arbennig, ac mae’r casgliadau wedi cael eu cyhoeddi heddiw.
Er bod cryn le i wella, dywedodd yr Arolygaeth fod rhai casgliadau positif i’w hadrodd.
Cafodd pum ward eu hadolygu ac roedd yr arolygwyr yn barod i ganmol gwaith tîm da ac arweiniad cryf ar y wardiau salwch dwys a’r uned gofal dwys seiciatryddol.
Roedd cleifion yn barod i ganmol agweddau a dulliau’r staff.
Diffyg trefnu staffio
Ond cafodd rhai pryderon eu nodi hefyd, gan gynnwys diffyg trefnu staffio oedd yn golygu bod cleifion mewn perygl o beidio derbyn gofal angenrheidiol.
Roedden nhw hefyd yn feirniadol o ystafelloedd brwnt ar rai wardiau oedd yn cael eu defnyddio i storio cyfarpar.
Doedd rhai dulliau iechyd a diogelwch ddim wedi cael eu cofnodi’n ddigon manwl, gan gynnwys gwirio cyfarpar, oergelloedd a thymheredd bwyd.
Nododd yr arolygwyr hefyd fod angen gwell fonitro ar wlâu er mwyn sicrhau nad oes mwy o gleifion na gwlâu.
Mae’r bwrdd iechyd bellach wedi cyflwyno adroddiad yn nodi sut y bydd y gwelliannau’n cael eu cyflwyno, ac fe fydd yr arolygwyr yn cydweithio’n agos â’r bwrdd er mwyn sicrhau bod gwelliant.
‘Adfer hyder y cyhoedd’
Dywedodd prif weithredwr yr Arolygaeth Gofal Iechyd, Dr Kate Chamberlain: “Mae ein hadroddiad a gyhoeddwyd heddiw yn parhau i dynnu sylw at sialensiau i wasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru.
“Cafodd yr arolwg hwn ei gwblhau cyn i’r bwrdd iechyd gael ei osod o dan fesurau arbennig.
“Bydd yn bwysig i’r bwrdd iechyd fod yn systematig wrth fynd i’r afael â’r materion y tynnwyd sylw atyn nhw o ran gwasanaethau iechyd meddwl.
“Bydd angen gwneud hyn mewn modd agored er mwyn ymgysylltu â staff ac adfer hyder y cyhoedd.
‘Pryderon difrifol’
Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar: “Mae’r adroddiad hwn yn codi pryderon difrifol am safonau yn yr uned hon y mae’n rhaid mynd i’r afael â nhw ar unwaith a heb oedi.
“Bydd y casgliadau’n bryder i gymunedau a staff – ac fe fyddan nhw’n tanseilio hyder y cyhoedd mewn gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru unwaith eto.
“Yn dilyn y digwyddiadau erchyll yn Tawel Fan, ni ddylid anwybyddu rhybuddion a dylid datrys unrhyw wendidau yn gyflym.”
Ychwanegodd fod diffyg hyder y teuluoedd yn y bwrdd iechyd yn “bryder eithriadol” iddo.