Bydd prosiect gwerth £5.9 miliwn i ddatblygu cyfleusterau newydd i ymwelwyr yng Nghastell Harlech yn sicrhau “llu o fuddion economaidd yn y dyfodol” i fusnesau lleol, yn ôl arbenigwr sy’n cynrychioli masnachwyr gogledd Cymru.

Mae’r gwaith adeiladu ar y Castell sy’n cael ei arwain gan Lywodraeth Cymru, wedi gweddnewid hen westy ger llaw yn fflatiau moethus, sicrhau canolfan ymwelwyr fodern newydd a siop, caffi, ac ardal ddehongli.

Eisoes mae cyflenwyr lleol wedi eu penodi i redeg y caffi newydd ac i osod y fflatiau.

Fe ddisgwylir i’r buddsoddiad sylweddol yn y cyfleusterau newydd hybu twristiaeth a chadarnhau statws Harlech fel man gwyliau atyniadol drwy gydol y flwyddyn.

Manteision economaidd

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones, a oedd yn Harlech ddoe i gyfarfod â rhai o’r contractwyr a’r darpar gontractwyr yn y datblygiad: “Bydd y  buddsoddiad yn Harlech yn rhoi profiad i ymwelwyr a fydd yn cyfateb i statws y castell fel Safle Treftadaeth y Byd, a bydd yn dod â mwy o dwristiaeth a manteision economaidd cysylltiedig i’r ardal.”

Mynnodd Colin Brew, Cyfarwyddwr Gweithredol Siambr Fasnach Gogledd Cymru, fod y datblygiad wedi cael effaith gadarnahol yn barod: “Mae’r gwaith datblygu yng Nghastell Harlech wedi cael effaith gadarnhaol eisoes, o ran cyfleoedd i fusnesau lleol a hybu’r gadwyn gyflenwi leol.”