Y Storm
Bydd band roc o ysgol gynradd yn ardal Y Bala yn perfformio o flaen 10,000 o bobl mewn gŵyl yn Cannock yng nghanolbarth Lloegr heno (nos Sadwrn).

Mi fydd y criw sy’n ddisgyblion yn Ysgol OM Edwards yn Llanuwchllyn yn rhannu llwyfan gyda chyn-ganwr byd-enwog Led Zeppelin, Robert Plant.

Mae Prifathrawes Ysgol OM Edwards, Dilys Jones yn teimlo balchder fod Y Storm yn cynrychioli’r ysgol o flaen miloedd o bobl ac yn codi arian i helpu dioddefwyr trychineb yn Nepal.

“Dw i’n falch iawn drostyn nhw a dw i ddim yn meddwl fod maint y cyngerdd wedi taro adre  eto, ei bod o flaen deng mil o bobl!”

Cyswllt teuluol

Mae Liam Tyson, tad i ddau aelod o fand Y Storm, yn byw yn Llanuwchllyn ac yn chwarae gitâr fâs i Robert Plant and The Sensational Space Shifters.

Daeth y cyfle i chwarae’r Ŵyl yn Cannock ar ôl i’r canwr enwog glywed am gân y plant ysgol at achos da.

“Maen nhw wedi sgwennu cân ar gyfer trychineb Nepal ac maen nhw wrthi’n ei recordio,” eglura Dilys Jones.

“Mi wnaeth Liam [Tyson] son wrth Robert Plant fod y plant yn sgwennu cân i Nepal, mae gynnon nhw set o bump i chwe chân… ac mi oedd Robert Plant yn hapus iawn iddyn nhw chwarae nos yfory yn Cannock ac yn awyddus iddyn nhw gael bwrdd yn gwerthu eu CD’s gyda thair cân wreiddiol, gyda’r arian yn mynd i achos Nepal.”

Hanes y band

Meddai Dilys Jones: “Fe ddechreuodd y band dros dair blynedd yn ôl fel grŵp pop yr ysgol oherwydd ein bod yn gweld doniau a photensial y gerddoriaeth ardderchog a oedd yn cael ei wneud gan feibion Liam Tyson, Osian a Guto, un ar y lead guitar ac un ar y drymiau… ac mi oedden ni fel ysgol yn meddwl sut y gallwn ni ddatblygu hyn a chael disgyblion eraill i fod yn rhan… ac felly, mi wnaethon ni benderfynu sefydlu band ar gyfer Steddfod Genedlaethol yr Urdd, ac maen nhw wedi ennill y gystadleuaeth dair blynedd yn olynol.”

Ychwanegodd: “Wrth gwrs, mae Llanuwchllyn yn enwog am ei cherdd dant ac mae cerddoriaeth yn fwy ac yn iach yn Llanuwchllyn – ond yn fodern ac yn gyfoes hefyd”.