Huw Edwards
Bydd y darlledwr adnabyddus Huw Edwards yn dychwelyd i Gymru i agor Hen Gapel Llwynrhydowen yng Ngheredigion yn dilyn gwario £267,000 i adfer yr adeilad.

Cafodd yr adeilad Gradd II* ei atgyweirio a’i atgyfnerthu o ganlyniad i arian gan Ymddiriedolaeth Addoldai Cymru sy’n gwarchod adeiladau crefyddol.

Yn ôl y trefnwyr: “Mae ailagor y capel yn cyd-fynd gyda charreg filltir o 140 o flynyddoedd ers i’r capel Undodaidd wneud penawdau’r papur newydd, ar ôl i’r gynulleidfa gael ei chloi allan o’r capel a’r fynwent am wrthsefyll eu landlord Torïaidd.”

“Daeth y ‘troi allan’ i ben ar ôl tair blynedd chwerw pan gafodd yr allwedd ei roi’n ôl i’r gynulleidfa – seremoni a fydd yn cael ei hailadrodd heno wrth i Huw Edwards drosglwyddo’r allwedd eto i’r Gweinidog, Wyn Thomas.”

Bydd pobl leol yn ymuno gyda’r darlledwr Huw Edwards ar gyfer yr agoriad swyddogol heno am saith.