Edwina Hart
Mae Gweinidog yr Economi, Edwina Hart wedi wfftio’r honiadau yn y Western Mail heddiw fod y cynlluniau i adeiladu ffordd osgoi Casnewydd ar fin cael eu sgrapio.

Wrth ymateb i’r honiadau, ysgrifennodd Edwina Hart neges ar Twitter yn dweud wrth ei dilynwyr i “anwybyddu honiadau cwbwl anghywir. Nid oes cynlluniau i beidio bwrw ymlaen gyda ffordd osgoi’r M4”.

Mae Llefarydd Trafnidiaeth Plaid Cymru wedi cyhuddo’r Llywodraeth Lafur o gamweinyddu’r buddsoddiad yn yr M4.

“Mae’r holl fenter o’r dechrau wedi’i gamweinyddu,” meddai Rhun ap Iorwerth.

“Mae’r agwedd wamal i wario symiau sylweddol o arian benthyg yn adlewyrchiad gwael o’r Llywodraeth Lafur.”

Yn ôl Rhun ap Iorwerth, mae angen i Lywodraeth Cymru egluro’r sefyllfa:  “Mae angen i’r Gweinidog ddatgan gerbron y Cynulliad a dweud wrth bobl Cymru beth yn union sy’n digwydd.”

Mae Rhun ap Iorwerth yn credu y dylai’r Llywodraeth droi eu golygon at greu strategaeth drafnidiaeth i Gymru gyfan: “Un pwynt cadarnhaol o’r saga anffodus hon yw y bydd angen edrych ar drafnidiaeth o gyfeiriad Cymru gyfan yn hytrach na chanolbwyntio ar un cornel o Gymru.”