Mae disgwyl stormydd a glaw mawr – hyd yn oed genllysg neu gesair – dros nos heno wrth i’r tywydd poeth barhau ar draws Cymru yn ystod y dydd.

Bydd y tywydd yn braf a heulog am ran helaeth o’r diwrnod ym mhob rhan o Gymru, gyda’r tymheredd uchaf rhwng 23 a 25 gradd Celsiws yn y rhan fwyaf o ardaloedd.

Ond mae’r swyddfa dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am dywydd garw rhwng 7.00 heno a hanner dydd ddydd Sadwrn, gyda disgwyl stormydd.

Llifogydd posib

Mae disgwyl iddi lawio drwy’r nos ar draws y rhan fwya’ o Gymru, ac yn ôl y Swyddfa Met fe allai hynny arwain at lifogydd posib mewn rhai mannau.

“Mae disgwyl i stormydd achlysurol ond trwm ddatblygu nos Wener yn rhannau o Gymru a Lloegr,” meddai’r swyddfa dywydd.

“Mae disgwyl i’r rhain fynd yn fwy cyson nes ymlaen a symud tua’r gogledd i gyfeiriad de yr Alban. Mae cawodydd trwm yn bosib a allai arwain at lifogydd lleol, ac fe allai cenllysg mawr a mellt cyson hefyd fod yn beryglus.”

Mae’r stormydd eisoes wedi effeithio ar 50,000 yng ngogledd ddwyrain Lloegr, gyda chenllysg yn torri tai gwydr a difrodi ceir, a tho un tŷ yn cael ei losgi mewn tân ar ôl cael ei tharo gan fellten.