Dau o staff Ward B2 (Llun Llywodraeth Cymru)
Gwasanaethau arbennig trwy’r Gymraeg i bobol oedrannus oedd rhai o’r prif enillwyr yng Ngwobrau’r Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Fe aeth y brif wobr i Ysyty yn y Rhondda lle mae gwasanaethau Cymraeg wedi eu sicrhau yn un o’r wardiau i bobol oedrannus – un o gonglfeini strategaeth iaith ac iechyd y Llywodraeth yw cynnig dewis, yn hytrach nag aros i bobol ofyn.
Fe all cleifion ddewis mynd i Ward B2 yn Ysbyty Cwm Rhondda, lle mae’r staff clinigol, y porthorion a’r staff bwyd i gyd yn gallu siarad Cymraeg.
Yn ôl yr ysbyty, mae’r gwasanaeth wedi “arwain at newid cadarnhaol yn agweddau’r staff a’r cleifion” – fe gafodd wobr y Gweinidog Iechyd am sicrhau gwasanaeth Cymraeg mewn ardal sydd heb fod yn ‘draddodiadol Gymraeg’.
Bingo Cymraeg
Roedd cartref gofal y Ben-y-bont ar Ogwr hefyd wedi ennill yn y seremoni yn Llandudno ddoe – maen nhw’n trefnu gweithgareddau trwy’r Gymraeg, gan gynnwys bingo a chanu emynau, ac yn hyfforddi staff i ddefnyddio rhywfaint ar yr iaith.
Roedd rheolwyr cartref Foxtroy House wedi cael eu hysbrydoli gan y strategaeth iaith a iechyd, ‘Mwy na geiriau…’.
“Mae’r gwobrau hyn yn dangos sut y gall gwella gwasanaethau wneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobol sydd eisiau neu angen derbyn gofal yn Gymraeg,” meddai Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd.