Alison McCourt (Llun y Weinyddiaeth Amddiffyn)
Mae nyrs o Landrindod wedi cael ei hanrhydeddu gydag OBE am ei gwaith yn ymladd yr afiechyd Ebola yn Sierra Leone.

Fe aeth y Lefftenant-Cyrnol Alison McCourt, sydd yn fam i ddau o blant, allan i Sierra Leone ym mis Hydref 2014 a threulio wyth mis yno yn rheoli canolfan feddygol oedd yn trin cleifion.

Yn ôl amcangyfrifon Cyfundrefn Iechyd y Byd mae mwy nag 11,000 o bobol eisoes wedi marw yng ngorllewin Affrica ers i Ebola ddechrau lledaenu yn 2013, ond mae ymdrechion diweddar i ymladd yr afiechyd wedi bod yn gymharol lwyddiannus.

Ymdrech tîm

Mynnodd Alison McCourt y dylai’r clod am y gwaith o ymladd yr afiechyd fynd i’r holl dîm a’r staff meddygol oedd wedi gweithio gyda hi yn Sierra Leone.

“Mae’n fraint o’r mwya’ i gael cydnabyddiaeth gyhoeddus yn y fath fodd. Dyw hon ddim jyst yn anrhydedd i mi ond i fy uned gyfan i,” meddai’r nyrs.

“Roedd hi’n dasg frawychus, yn enwedig ar y dechrau, ac roedd risg uchel ond roedd yn rhywbeth oedd yn werth ei wneud.

“Roedd pobol Sierra Leone mor groesawgar i ni ac yn barod i’n derbyn a dw i wir yn teimlo ein bod ni wedi cyfrannu at roi’r wlad ar y trywydd iawn at wellhad.