Trudy Jones (Llun: HDC)
Fe fydd trigolion y Coed Duon yn ymuno gyda phobol ledled gwledydd Prydain mewn munud o dawelwch i gofio meirwon Tiwnisia.
Mae seremoni fechan wedi ei threfnu ger Sefydliad y Glowyr yng nghanol y pentref yng Ngwent i gofio am Trudy Jones, y wraig leol oedd ymhlith y 30 o bobol o wledydd Prydain a fu farw yn y lladdfa wythnos yn ôl.
Roedd corff y fam a’r fam-gu 51 oed ymhlith y naw a gafodd eu cario’n ôl i safle’r RAF yn Brize Norton ddoe.
Gohirio dechrau Wimbledon
Fe fydd y munud o dawelwch yn cael ei gynnal am hanner dydd ar draws gwledydd Prydain a baneri ar hanner y mast mewn llawer o adeiladau cyhoeddus.
Fe fydd dechrau’r chwarae ym Mhencampwriaeth Tennis Wimbledon yn cael ei ohirio am dri chwarter awr er mwyn i bobol allu cymryd rhan.
Roedd y 30 o wledydd Prydain ymhlith 38 a gafodd eu lladd ar draeth ger tref Sousse yn Tiwnisia pan ddechreuodd Islamydd eithafol, Seifeddine Rezgui, saethu’n ddidrugaredd i’w canol.