Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan
Mae gwleidyddion yn y gogledd wedi croesawu penderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i beidio herio adolygiad barnwrol i gynlluniau i israddio uned famolaeth Ysbyty Glan Clwyd.

Roedd y bwrdd iechyd wedi bwriadu herio adolygiad barnwrol yn erbyn y cynlluniau, ond maen nhw nawr am ddechrau ymgynghori eto ar ddyfodol y gwasanaethau.

Roedd disgwyl i’r adolygiad barnwrol gael ei glywed wythnos nesaf.

Roedd ymgyrchwyr sy’n gwrthwynebu’r cynlluniau wedi dadlau y byddai cau’r uned famolaeth yn peryglu bywydau darpar famau a’u babis.

‘Ymgynghori’n agored’

Dywedodd pennaeth dros dro Betsi Cadwaladr, Simon Dean, y bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal dros yr haf:

“Hoffwn ei gwneud yn glir fod y broses gyfreithiol yn parhau ac nad yw wedi dod i ben. Ar ôl ystyriaeth ddwys yn dilyn cyngor cyfreithiol, rydym wedi penderfynu peidio herio’r adolygiad barnwrol yn ein herbyn.

“Ein bwriad yw ymgynghori yn agored gyda’n staff a’r cyhoedd er mwyn casglu syniadau am opsiynau eraill byrdymor i’r gwasanaeth. Rydym yn disgwyl i hyn ddigwydd dros yr haf ac fe fyddwn yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod gymaint o bobol ag sy’n bosib yn cael cyfle i gymryd rhan.

“Rydym yn derbyn bod y cyfnod hwn wedi bod yn anodd i’n staff a’n cleifion ac rydym yn ymddiheuro am hynny. Mae’r pryder am y gwasanaeth, sydd yn brin o feddygon llawn amser, yn parhau ac rydym yn gorfod dibynnu ar feddygon locwm o hyd.

“Mae’n rhaid i ni fod â hyder mewn gwasanaeth cadarn, diogel sydd a digon o staff er mwyn i ni fedru ei gynnal i’r dyfodol. Does dim atebion hawdd i wneud hynny.”

‘Gwastraff amser’

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yng Nghymru Darren Millar: “Rwy’n falch bod penaethiaid y gwasanaetha iechyd wedi ildio o’r diwedd, ond ni ddylai fod wedi cymryd cyn hired iddyn nhw wneud y peth iawn.

“Mae’r penaethiaid wedi ychwanegu at ansicrwydd yn ddiangen, trwy wrthod ymgynghoriad ar eu cynlluniau. Bydden nhw wedi osgoi drwg deimlad mawr ymysg staff, darpar rieni a’u teuluoedd pe bai hyn wedi digwydd yn gynt.

“Mae’r broses wedi bod yn wastraff amser llwyr ac rwy’n annog gymaint o bobol ag sy’n bosib i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar y mater.”