Mae’r actor John Pierce Jones wedi dweud wrth Golwg360 fod plismon wedi ymosod ar ei fab 12 oed yn ystod gêm griced yn Stadiwm Swalec yng Nghaerdydd neithiwr.

Mae’n honni bod yr ymosodiad wedi digwydd ar ôl i botel blastig wag gael ei thaflu dros ochr eisteddle y tu fewn i’r stadiwm a fod un plismon wedi pigo ar ei fab mabwysiedig oherwydd ei liw.

Roedd y plismon wedi anwybyddu bechgyn eraill, meddai,  a mynd am ei fab.

Yr honiad

Roedd ei fab, Iwan, sy’n groenddu ac yn ddisgybl yn Ysgol Glantaf, yn un o dîm pêl-droed dan 12 yr Urdd oedd wedi bod yn y stadiwm yn gwylio’r gêm ugain pelawd T20 neithiwr rhwng Morgannwg a Swydd Surrey.

Ar ei dudalen Facebook, dywedodd John Pierce Jones: “Roedden ni’n gwylio criced yn sdadiwm Swalec, roedd Iwan yn eistedd efo criw o’i ffrindia.

“Roeddwn i newydd fynd am banad, pan galwyd fi’n nol i’r sdadiwm ar frys. Roedd Iwan mewn cryn stad, roedd rhywun wedi cwyno fod bechgyn wedi taflu potel blastig wag dros ochor y stand, doedd Iwan ddim byd i wneud a’r peth.

“Daeth heddwas i’r safle, pasio rhes o fechgyn yn eistedd a gafael yn frwnt ym mraich Iwan a cheisio ei lusgo. Roedd Iwan yn crefu arno i sdopio, daeth rhiant un o’i ffrindia at yr heddwas a gofyn iddo ollwng Iwan oedd yn crio ac wedi torri ei galon.”

Ychwanegodd fod y plismon dan sylw wedi targedu ei fab “heb amheuaeth oherwydd lliw ei groen”.

Cwyn

Dywedodd John Pierce Jones wrth Golwg360 ei fod wedi gwneud cwyn wrth sarjant y tu fewn i’r stadiwm.

Pan gysylltodd Golwg360 â Heddlu’r De, dywedodd llefarydd nad oedd yn ymwybodol o’r gwyn ar hyn o bryd.

Ond pe bai cwyn wedi’i gwneud, meddai, yna fe fyddai’r adran briodol yn ymdrin â’r mater.

Dywedodd llefarydd ar ran Stadiwm Swalec eu bod nhw’n ymchwilio i’r mater.

Stori: Alun Rhys Chivers