Mae dyn 47 oed wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio dynes 43 oed yn ardal Grangetown o Gaerdydd.
Mae hyn yn dilyn ymosodiad erchyll bythefnos yn ôl, ddydd Gwener 12 Mehefin.
Fe wnaeth ditectifs o Heddlu De Cymru deithio i ardal Croydon o Lundain ddydd Iau ac arestio Arnel Martinez Raymundo ar ameuaeth o geisio llofruddio ac aed ag ef i orsaf heddlu Bae Caerdydd.
Fe ymddangosodd gerbron Llys Ynadon Caerdydd y bore yma ac mae wedi cael ei gadw yn y ddalfa i ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd y mis nesaf.
Meddai’r Ditectif Arolygydd Wendy Gunney o CID Caerdydd:
“Roedd y drosedd yn un erchyll, a achosodd anafiadau difrifol i’r ddioddefwraig. Mae hi wedi cael profiad hunllefus, a dw i’n gobeithio y bydd y cyhuddiad yn erbyn Raymundo yn tawelu ei meddwl hi, ei theulu a’r gymuned leol.”