Mae Heddlu Gwent wedi apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn 82 oed gael ei ladd mewn damwain car ger Brynbuga yn Sir Fynwy prynhawn ddoe.

Roedd tri dyn o Gaerdydd yn teithio tua’r de ar ffordd yr A449 i gyfeiriad Casnewydd, mewn car oren Renault Captor, pan ddigwyddodd y ddamwain.

Doedd dim cerbyd arall yn rhan o’r ddamwain, a ddigwyddodd am tua 15.36.

Cafodd y gyrrwr 80 oed a theithiwr arall 79 oed oedd yn y car eu cludo i’r ysbyty, ac mae’r ddau bellach mewn cyflwr sefydlog.

“Mae hwn yn ddarn prysur o ffordd gyda thipyn o draffig arni ar y pryd,” meddai’r arolygydd Lee Ford.

“Mae’n gerbyd trawiadol felly fe fydden i’n gobeithio bod rhywun â rhyw fath o wybodaeth allai ein helpu ni.

“Rydyn ni’n gofyn i unrhyw un a welodd y digwyddiad i gysylltu â ni, os nad ydyn nhw wedi gwneud yn barod, neu unrhyw un a welodd y cerbyd cyn hynny i’n ffonio ni ar 101 gyda’r rhif cyfeirnod 334 25/6/15.”