Afon Taf, Caerdydd
Mae Heddlu’r De wedi gwneud apêl uniongyrchol i fam babi y cafwyd hyd i’w gorff yn Afon Taf yng Nghaerdydd.
Cafwyd hyd i gorff y bachgen bach yn yr afon ger Heol Penarth tua 6yh neithiwr ac mae ditectifs yn credu mai dim ond ychydig ddyddiau yn ôl y cafodd ei eni.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Gareth Morgan mai eu prif flaenoriaeth oedd dod o hyd i fam y babi ar fyrder er mwyn sicrhau ei bod yn cael yr help sydd ei angen arni.
Wrth gyfeirio ati’n uniongyrchol dywedodd: “Rwy’n deall eich bod chi wedi bod trwy gyfnod trawmatig ac fe alla’i eich sicrhau bod gennym ni bobl broffesiynol gyda sgiliau arbennig a all roi cymorth.”
Mae Gareth Morgan hefyd wedi apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.
Annog y gymuned leol i gysylltu
“Rhywle yn y gymuned leol mae ’na ferch a allai fod yn ei chael hi’n anodd ar ôl rhoi genedigaeth ac yna marwolaeth ei mab,” meddai.
“fe allai mam y plentyn fod wedi cyfaddef wrth ffrind neu berthynas ac rwy’n eich annog unwaith eto i gysylltu â ni.”
Dywedodd Heddlu’r De eu bod nhw hefyd yn awyddus i siarad â phobl sy’n mynd i lannau’r Taf yn aml neu’n defnyddio’r afon rhag ofn eu bod wedi gweld “unrhyw beth anarferol” ers dydd Sul diwethaf.
Mae ymholiadau o dy i dy yn parhau ac mae rhagor o swyddogion ar batrôl er mwyn rhoi cyfle i drigolion lleol gysylltu â’r heddlu os oes ganddyn nhw wybodaeth.
Cafodd rhan o’r afon ei chau neithiwr wrth i hofrennydd yr heddlu, cwn, diffoddwyr tan a swyddogion fforensig archwilio’r safle.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu’r De ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555111 gan nodi’r cyfeirnod 1500224381.