Llys y Goron yr Wyddgrug
Mae dynes a oedd yn dyst i ymosodiad honedig ar ddyn mewn siop Tesco yn yr Wyddgrug wedi dweud bod yr ymosodwr yn ymddwyn yn “gwbl wallgof”.

Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug ddoe bod Zack Davies, sy’n cael ei gyhuddo o geisio llofruddio, wedi ymosod ar ddyn o dras  Asiaidd “er mwyn dial am ymosodiad ar y milwr Lee Rigby” yn 2013.

Roedd Dr Sarandev Bhambra, sy’n ddeintydd dan hyfforddiant, wedi mynd i Tesco i nôl ei ginio pan ddaeth Zack Davies ato a’i daro gyda machete gan weiddi “cyfiawnder i’r gwynion” clywodd y llys.

Wrth roi tystiolaeth heddiw, dywedodd Lyndsey Baxter ei bod yn siopa gyda’i mam a’i merch bedair oed nol ym mis Ionawr pan welodd ddyn yn ymddwyn yn “gwbl wallgof”.

Dywed yr erlyniad a byddai Davies wedi lladd Dr Sarandev Bhambra oni bai bod cyn filwr wedi ymyrryd gan ei berswadio i roi’r morthwyl a’r machete ar y llawr.

Mae Davies, 26, yn gwadu ceisio llofruddio ond yn cyfaddef achosi niwed bwriadol.

Mae’r achos yn parhau.