Caerdydd
Mae rhanbarth dinas Caerdydd ar ei ffordd i fod yn un o lefydd mwyaf cystadleuol yn y DU tu allan i Lundain yn y maes Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol yn ôl Gweinidog yr Economi, Edwina Hart.

Mewn digwyddiad Brecwast cymdeithas y cyflogwyr, y CBI, dywedodd y Gweinidog mai Caerdydd oedd y ddinas sydd wedi tyfu cyflymaf mewn gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, gyda Chymru yn gweld cynnydd o 10% o swyddi yn y meysydd uchod ers 2005.

Caerdydd – y ddinas fwyaf cystadleuol tu allan i Lundain

Ategodd Edwina Hart fod sefydlu Parth Menter Canol Caerdydd yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi Caerdydd ar y map ariannol a chreu amodau ble gall fusnesau ffynnu.

“Yn 2014-15, fe sicrhaodd y Llywodraeth un o’r ffigyrau gorau erioed yn y farchnad swyddi, gan greu dros 5,000 o swyddi a sicrhau dyfodol  4,520 o swyddi presennol.

“Mae 2,000 o’r swyddi newydd yn y sector ariannol a phroffesiynol, gyda 1,157 ohonyn nhw wedi’i diogelu.”

“Mae Caerdydd ar drywydd i fod y ddinas fwyaf cystadleuol tu allan i Lundain ar gyfer y gwasanaethau ariannol a phroffesiynol. Fel Llywodraeth sydd o blaid busnes, byddwn yn parhau i weithio i greu’r amodau sydd eu hangen i wneud hynny.”