Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi lansio ymgyrch i geisio sicrhau dyfodol S4C.

Meddai’r blaid eu bod yn lansio’r ymgyrch ar ôl nifer o fygythiadau gan y Ceidwadwyr i naill ai dorri neu sgrapio ffi drwydded y BBC.

Mae’r ffi drwydded yn darparu £74m i S4C, sef 90% o gyllid y sianel. Mae maniffesto’r Ceidwadwyr yn addo rhewi’r ffi drwydded “hyd nes adnewyddir y Siarter” ond mae’r Ysgrifennydd Diwylliant newydd John Whittingdale AS wedi dweud yn y gorffennol y dylid cael gwared a’r ffi drwydded yn gyfan gwbl.

Mae angen adnewyddu Siarter y BBC erbyn 2017, a bydd trafodaethau ynglŷn ag ariannu a maint y BBC yn dechrau dros yr haf.

Mae’r £8m o arian S4C sy’n weddill yn dod oddi wrth Adran Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU, ac nid oes sicrwydd a fydd yn parhau ar ôl y flwyddyn hon.

Galw ar y Llywodraeth i wneud mwy

Bydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cynnal dadl yn y Cynulliad yfory yn galw ar Lywodraeth Cymru i gysylltu â Llywodraeth y DU i nodi pwysigrwydd amddiffyn annibyniaeth olygyddol, reolaethol a gweithredol S4C a’r angen am setliad ariannol cynaliadwy er mwyn amddiffyn dyfodol darlledu Cymraeg.

Dywedodd Aled Roberts AC, llefarydd Cymraeg y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru: “Mae S4C yn gwneud cyfraniad aruthrol i amddiffyn ein hiaith a chyfoethogi diwylliant Cymreig, yn ogystal â dod ag elw i’r economi leol. Mae pob £1 a wariwyd gan S4C yn werth £2.09 i’r economi yng Nghymru ac ers lansio’r sianel yn 1982 mae hi wedi dod â dros £2.2bn o fuddsoddiad i Gymru.”

‘Ansicrwydd’

Ychwanegodd: “Mae’n debyg bod gan y Torïaid agenda wrth-BBC gyda’r amcan i’w gulhau cymaint â phosib. Mae’r Ysgrifennydd Diwylliant newydd wedi dweud dylid sgrapio ffi drwydded y BBC, sy’n creu ansicrwydd mawr ynglŷn ag ariannu dyfodol S4C, ac nid oes sicrwydd am arian y Llywodraeth ar ôl eleni. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd ofnadwy i’r sianel gomisiynu gwaith, sy’n cael effaith ar swyddi a chynllunio i’r dyfodol.

“Bydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn brwydro i sicrhau dyfodol S4C. Rwy’n pryderu y bydd y Ceidwadwyr, heb y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Llywodraeth, yn parhau gyda’u cynlluniau heb feddwl am ddyfodol darlledu cyfrwng Cymraeg.

“Wrth i drafodaethau dros adnewyddu Siarter y BBC ddechrau’r haf hwn, mae hi’n hollbwysig bod Llywodraeth Cymru yn rhoi achos cryf dros ddyfodol S4C. Mae’n rhaid i’r Ceidwadwyr gyfaddef eu cynlluniau am ddyfodol S4C er mwyn rhoi diwedd i’r ansicrwydd presennol, er mwyn i’r sianel barhau i gomisiynu’r rhaglenni Cymraeg rydym ni oll yn mwynhau.”